Plant yn gweithio yn y pyllau glo

Ar ddechrau’r 19 ganrif doedd llawer o blant o deuluoedd tlawd ddim yn mynd i’r ysgol. Gweithiai nifer ohonynt mewn ffatrioedd, ar ffermydd,yn glanhau simneau ac yn y pyllau glo. Yng Nghymru, ceir dau faes glo – un yn y Gogledd ac un yn y De. Roedd glo yn bwysig iawn yn yr 19 ganrif oherwydd mai dyma oedd tanwydd y chwyldro diwydiannol.
Gweithiai llawer o ferched a phlant yn y pyllau glo gan nad oedd rhaid i’r perchnogion dalu cymaint o gyflog iddynt. Yn ogystal a hyn, roedd y teuluoedd tlawd angen i’r plant weithio er mwyn cael arian i fyw.

Byddai plant mor ifanc a 5 neu 6 oed yn gweithio yn y pyllau glo. Gwaith rhai o’r plant oedd agor a chau’r drysau aer. Llenwi tryciau gyda glo a wna eraill, gan wahanu’r gwastraff oddiwrth y glo. Wedi llwytho’r tryciau, roedd yn rhaid eu tynnu neu eu gwthio ar hyd y twneli cul a thywyll, a dyna fyddai gwaith plant eraill.

Gweithiai plant hyd at ddeuddeg awr bob dydd mewn amgylchiadau ofnadwy.Roeddent yn mynd a bwyd i lawr y pwll gyda hwy, ond weithiau, byddai llygod mawr yn dod i lawr a bwyta eu bwyd!

Os na fyddai’r plant yn gweithio’n ddigon caled, byddai’r meistr yn eu curo.Ychydig iawn o olau dydd a welai’r plant, a dim ond ar ddydd Sul yr oeddent yn cael gorffwys. Dim ond ychydig geiniogau y dydd a dalwyd iddynt.

Roedd y gwaith yn beryglus iawn gan nad oedd rheolau diogelwch bryd hynny.Roedd perygl y gallai’r twneli ddisgyn, ac hefyd berygl o nwyon gwenwynig a ffrwydriadau. Aed a chaneri mewn cawell i lawr y pwll, ac os byddai’r aderyn farw, yna roedd nwy yn bresennol. Yn 1815 dyfeisiwyd lamp ddiogelwch gan Syr Humphrey Davey oedd yn gwneud pethau yn llawer mwy diogel. Er hyn, ceir cofnod o lawer o anafiadau difrifol a marwolaethau.

Teimlai yr Arglwydd Shaftsebury ac amryw o bobl eraill fod angen deddfau i rwystro plant ifanc rhag gweithio cymaint o oriau dan amodau mor beryglus. Holwyd y plant am eu amodau gwaith ac ysgrifenwyd adroddiadau ar hyn. O’r flwyddyn 1833 ymlaen pasiwyd deddfau oedd yn gwella amodau gwaith merched a phlant.